Mae MTW a Hijinx yn cyflwyno Perthyn – opera ddigidol newydd gan bobl ifanc

Gwyliwch Perthyn yma

Mae Music. Theatre. Wales. yn teimlo’n gyffrous wrth gyflwyno Perthyn – ail Opera Ddigidol Future Directions a grëwyd yn ystod 2023, mewn partneriaeth gyda Hijinx.   

Rhaglen ar gyfer pobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – mae hi’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf fynegiannol-bwerus ar gyfer pobl o bob cefndir a hunaniaeth. Mewn cydweithrediad gydag artistiaid proffesiynol, mae’r grŵp o bobl ifanc niwroamrywiol yn dyfeisio a chreu opera newydd, gan archwilio eu syniadau, dysgu gan ei gilydd, ac ysbrydoli ei gilydd a’r artistiaid cefnogol. Cyflwynir y gwaith fel cynhyrchiad Music Theatre Wales, gan ymestyn ystod ein gwaith, datblygu dulliau newydd o weithio i’r cwmni, a chysylltu gyda chynulleidfaoedd na fyddent, mae’n debyg, erioed wedi ystyried opera fel rhywbeth a allai fod yn berthnasol i’w bywydau. 

Ar gyfer y prosiect hwn, mae Music Theatre Wales wedi tynnu at ei gilydd y Gwneuthurwr Theatr a’r Dramatwrg Jain Boon, y Gwneuthurwr Cerddoriaeth Mari Mathias, y Gantores Llio Evans a’r Gwneuthurwr Ffilmiau Gavin Porter, i weithio ar y cyd gyda’r cyfranogwyr ifanc i greu gwaith newydd, gwreiddiol mewn tri symudiad. Mae’r darn gorffenedig, Perthyn, yn opera mewn cerddoriaeth, testun, symudiadau a ffilm wedi ei hadeiladu’n gyfan gwbl ar syniadau a chreadigrwydd y cyfranogwyr, ac mae’n cario neges gref oddi wrth y bobl ifanc i bawb ohonom feddwl amdani.

Mae Future Directions yn brosiect blynyddol sydd wrth wraidd prif weithgaredd y Cwmni. Cyflenwir y prosiect mewn partneriaeth gyda Theatr Hijinx.  

“Roedd yn rhyfeddol gweld y stori, y gerddoriaeth, yr actio, y ffilm a’r animeiddio i gyd yn digwydd gyda’i gilydd”

“Ro’n i wrth fy modd gyda’r canu, y llais a’r symud”

Adborth gan gyfranogwyr

Yn dilyn sesiynau blasu a gynhaliwyd mewn ysgolion a gyda grwpiau o bobl ifanc, ynghyd â grwpiau theatr ieuenctid Hijinx North a Hijinx Telemachus, daeth y cyfranogwyr ifanc at ei gilydd i dreulio dau gyfnod preswyl o 3 diwrnod yr un – ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill ac yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd ym mis Awst. Rhwng y cyfnodau preswyl, daeth y grŵp at ei gilydd ar-lein i barhau i ddatblygu syniadau a llunio strwythur ar gyfer y darn. Mae’r bobl ifanc wedi creu eu stori eu hunain: dyfeisio ei chynrychioliad dramatig, creu’r iaith weledol, creu, ysbrydoli a pherfformio yn y gerddoriaeth, a chyd-greu’r ffilmio i rannu stori roeddynt i gyd yn awyddus i’w hadrodd. Mae MTW wedi gwneud addewid: eu bod yn cael eu hysbrydoli a’u dylanwadu gan eu gwaith, a chanddynt hwy fel unigolion creadigol. Dyma yw sail Future Directions.  

Hyderus. Bod yn fi fy hun. Creadigol.

“Dwi’n hoffi chwarae gyda goleuadau. Ro’n i’n hoffi’r gêmau. Dysgais wahanol sgiliau gyda’r camera.”

Adborth gan gyfranogwyr

Daeth y cyllid ar gyfer Future Directions oddi wrth:



Gyda diolch i'n partneriaid a'n cyflenwyr:


  • Hijinx
  • Aberystwyth University
  • University South Wales, Atrium
  • Unite Student Accommodation
  • Sherman Theatre
  • Events on Stage

FUTURE DIRECTIONS

The things that go unnoticed


Perthyn – Cwestiynau i’r Gynulleidfa

Mae MTW yn awyddus i wybod beth mae pobl yn ei feddwl o’n gwaith, i’n helpu ni i’w ddatblygu yn y dyfodol. Mae Future Directions yn ffordd y gallwn ddysgu ochr yn ochr â phobl ifanc, a chynyddu ein dealltwriaeth o niwroamrywiaeth, a thrwy hynny ein helpu i greu opera y gall pawb ei mwynhau. Rydym yn gofyn i bawb fu’n gwylio Perthyn ateb y cwestiynau canlynol:

Cwestiynau Cynulleidfa Perthyn

Rydym yn falch o gyflwyno’r Opera Ddigidol gyntaf –  Y Pethau nad y’n ni’n Sylwi Arnynt – a grëwyd gan Gwmni Ieuenctid Music Theatre Wales yn 2022.

Fe lwyddon ni! Mae gweithgaredd cyntaf y prosiect Future Directions bellach wedi’i gwblhau, a’n Cwmni Ifanc wedi cael amser gwych a chreadigol – ac mae’r un peth yn wir amdanon ninnau hefyd!

“Mae wedi bod yn gymaint o hwyl . . . gadewch i ni gadw mewn cysylltiad a gwneud hyn eto!!!”

Aelod o Gwmni Ifanc MTW

“Cyfle am her a chreadigrwydd . . . a llawer o chwerthin . . . beth mwy sydd ei angen?!”

Aelod o Gwmni Ifanc MTW

Dros yr wythnosau sydd i ddod, byddwn yn rhannu’r opera ddigidol newydd a grewyd gan y Cwmni Ifanc mewn cydweithrediad â phedwar artist proffesiynol. Ond o’r cychwyn cyntaf roeddem yn glir bod a wnelo hyn i gyd â chyfranogi a chreadigrwydd, datblygu sgiliau newydd, dulliau newydd o weithio, a gwneud ffrindiau newydd. Dyfeisio stori a ddaeth o’r grŵp a’i ddatblygu’n waith operatig. Ar brosiect fel hwn, mae’r daith tuag at yr uchafbwynt yr un mor bwysig â’r canlyniad, felly fe benderfynon ni rannu hyn gyda chi nawr.

“Wrth ddod at ein gilydd dros un peth a gwneud iddo ddigwydd, fe ddysgais i lwythi o sgiliau, e.e. actio, cerddoriaeth, golygu ac ati. A dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau.”

Aelod o Gwmni Ifanc MTW

Dechreuon ni trwy roi blas o’r hyn roedd y prosiect yn ei gynnig, a theithio o gwmpas ysgolion a grwpiau pobl ifanc gyda gweithdai’n archwilio sut i adrodd straeon mewn cerddoriaeth. Lluniwyd partneriaeth hefyd gyda Hijinx – un o’r prif gwmnïau theatr cynhwysol yn Ewrop – gan greu perfformiadau gydag artistiaid a chanddynt anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, a gyda Mess Up the Mess, sef prosiect theatr i bobl ifanc yn Rhydaman.

Dros ddau gyfnod preswyl o 3 diwrnod yr un – ym Mrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Awst – wedi’u cysylltu â chyfres o sesiynau creadigol ar Zoom a rhannu syniadau ar Slack, mae’r bobl ifanc wedi creu eu stori eu hunain: dyfeisio’r mynegiant dramatig, creu’r iaith weledol, creu, ysbrydoli a pherfformio’r gerddoriaeth, a chyd-greu’r ffilmio. Mae ganddynt stori roedd pawb yn awyddus i’w hadrodd – ynghylch pa mor rhwydd yw hi i i beidio â sylwi ar y byd o’n cwmpas a cholli cyfle i ni i gyd wneud gwahaniaeth. Ac yma yn MTW, rydym wedi gwneud addewid: i gael ein hysbrydoli a’n dylanwadu gan eu gwaith a chanddynt hwy fel unigolion creadigol. Dyma yw sail Future Directions.

“Teimlo’n rhan o deulu, creu cyfeillgarwch cryf gyda phobl nad o’n i erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen, a chael cyfle i brofi rhywbeth cwbl wahanol a rhyfeddol.”

Aelod o Gwmni Ifanc MTW

“Fe wnes i fwynhau’r cyfan!! Mae FD wedi rhoi cyfle i mi ddarganfod fy ngherddoriaeth”

Aelod o Gwmni Ifanc MTW

Llongyfarchiadau i Gwmni Ifanc cyntaf MTW. Ry’n ni’n gwybod eich bod wedi cael amser gwych, gan wneud ffrindiau newydd a darganfod ffyrdd newydd o weithio a meddwl. Diolch yn fawr!

Bydd Music Theatre Wales yn cynnal rhaglen Future Directions bob blwyddyn, felly os hoffech ymuno â ni a gweithio gyda ni ar greu opera newydd – a gwneud opera’n newydd – mae croeso i chi ddod i gysylltiad.

Creative facilitators 2022

A diolch o galon i'n cyllidwyr a'n partneriaid, yn hen a newydd:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Anthem
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Big Moose Coffee Co.
  • Foyle Foundation
  • Theatr Hijinx
  • Cwmni Theatr Mess Up the Mess
  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Tŷ Cerdd
  • Ieuenctid Tysul