New Directions

Ein huchelgais yn Music Theatre Wales yw bod yn sbardun dros newid: herio tueddiad byd opera i lynu wrth y gorffennol drwy greu cyfeiriad newydd a gwahanol ar gyfer dyfodol y ffurf hon ar gelfyddyd.

Wrth ehangu gorwelion opera, credwn y gallwn ddangos ei bod yn ffurf ar gelfyddyd a chanddi'r gallu i ymgysylltu â phobl o bob rhan o gymdeithas. I gyflawni hyn, gwyddom y bydd raid i ninnau hefyd newid, a chymryd arweiniad gan artistiaid nad ydym wedi gweithio â nhw erioed o'r blaen. Drwy gydweithredu ag ystod ehangach o ymarferwyr, a harneisio eu creadigrwydd i archwilio syniadau, ffurfiau a straeon newydd, byddwn yn gallu cysylltu â, ac ysbrydoli, cynulleidfaoedd nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.

I roi'r broses hon ar waith, rydym yn lansio Cyfeiriadau Newydd / New Directions.

Gyda Cyfeiriadau Newydd, mae Music Theatre Wales yn camu tuag at gyflawni newid go iawn – o ran y cwmni, yn nhermau amrywiaeth y rhai rydym yn gweithio â nhw ac yn eu comisiynu, ac o ran dyfodol y byd opera.

Drwy gyfrwng y rhaglen newydd hon, byddwn yn gofyn: beth all opera a theatr gerdd fod yn yr 2020au? Pwy sy'n eu creu? Ar gyfer pwy maen nhw? Sut y gellir eu creu? Ac ymhle y byddant yn cael eu perfformio?

Bydd Cyfeiriadau Newydd yn dathlu lleisiau'r rhai rydym yn eu comisiynu fel artistiaid yn eu hawl eu hunain, ac yn arwain drwy esiampl mewn diwydiant sydd wedi bod yn araf i gofleidio amrywiaeth. Cawn ein harwain gan weledigaethau'r artistiaid a gomisiynwyd o ran beth all opera a theatr gerdd fod, yn nhermau'r straeon maent yn dewis eu hadrodd a'r prosesau maent yn eu defnyddio. Wrth i MTW gamu i mewn i'r cyfnod newydd hwn o greadigrwydd, gan gydweithio ag artistiaid a fydd yn ein hysbrydoli i arloesi, rydym hefyd yn teimlo'n gyffrous wrth estyn allan i gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, a rhannu ein gwaith ar raddfa fwy eang.

Arweinir y rhaglen gan Elayce Ismail, cyfarwyddwr theatr/opera a dramatwrg, a fydd yn camu i swydd sydd newydd gael ei chreu, sef Cysylltai Artistig.

CYFEIRIADAU NEWYDD - Gwaith Byw

The Jollof House Party Opera - live

live Production


Praise for Jollof!

We wanted to share some feedback from people who came to The Jollof House Party Opera. Thanks to everyone who took the time to share their thoughts…

“I loved the mixing of styles, the light and shade, the fact that it was an experience rather than a performance, and the food was great!”

“This made my week. I had no idea what to expect and was so pleasantly surprised. Really lifted my heart - thank you”

“The most exciting/original piece of work I have ever seen”

“It showed the struggles of day to day life”

“I am Nigerian so could relate to this performance. Was absolutely amazing”

“Ingenious, the way that opera combined seamlessly with the hip-hop's musical elements - And great to have an opportunity to try some of the lovely food”

“The music, especially in the kitchen, the fact you got jollof at the end 🙂 interactive with the audience”

“Melting together the everyday and commonplace with the highbrow opera made for a really interesting experience”

“So unusual and good performances. Dancing, singing, Story was really funny - What a thing to think of. Great musicians, too.”

“The fusion of hip hop and opera was inspired. The performers were warm, engaging and humorous.”

“Very innovative and funny. Great idea to combine hip-hop, opera and food”

“Good energy. Fusion of hip-hop and opera was fresh and fun. It had a warmth to it - funny and human. It wasn’t too long. Loved the kitchen & using props as music. Jollof was banging, great accompaniment.”

“The interaction from the performers was great and the food was a great addition to a very modern take on an opera.”

“Loved every minute, please come again & I need this rice recipe!!”

CYFEIRIADAU NEWYDD - Gwaith Digidol

Wedi ei ysbrydoli gan y gwaith digidol cyntaf a grëwyd gennym, sef AMAZON gan Alex Ho ac Elayce Ismail (a gomisiynwyd ar gyfer y rhaglen Homemakers yn HOME Manceinion ym mis Gorffennaf 2020 a’i greu mewn partneriaeth â’r London Sinfonietta), dechreuodd New Directions gyda thri chomisiwn digidol byr oedd yn dwyn ynghyd artistiaid nad oeddynt wedi cydweithio gyda’i gilydd o’r blaen. Rhyddhawyd y gweithiau comisiwn byr ym mis Medi 2021, gan archwilio yr hyn y gallai opera fod, a chynnig syniadau ynghylch sut i fynd ati i greu opera fel ffurf ddigidol.

Ym mis Mawrth 2024, pleser o’r mwyaf i ni yw cyflwyno dwy Opera Ddigidol Fer newydd arall: GRIEF ac interbeing.

Grief

digital Production

The Jollof House Party Opera - Digital

digital Production

Pride (A Lion's Roar)

digital Production

Somehow

digital Production

Canlyniad annisgwyl rhan gyntaf y gwaith hwn oedd datblygiad posibl rhwydweithiau newydd â sefydliadau eraill megis LOYALTY - cynllun mentora ar gyfer egin artistiaid Du yng Nghymru, ac ENOA (European Network of Opera Academies) sydd wedi sefydlu cyfnodau preswyl i artistiaid amrywiol mewn cwmnïau opera Ewropeaidd.